Croseo I Canvas & Campfires
Dewch i brofi glampio moethus yng ngorllewin Cymru ar ein safle glampio arobryn.
Mae ein safle glampio arobryn wedi'i leoli rhwng y mynyddoedd a'r arfordir, ac yn swatio ar dyddyn bach godidog, mewn cornel dawel o Fynyddoedd Cambria yng nghefn gwlad Cymru. Mae gennym bebyll saffari moethus a Beudy Bach sydd wedi'i addasu. Dewch â'r teulu neu ffrindiau (mae cŵn yn cyfrif hefyd) neu dewch ar eich pen eich hun.
Mae gennym bum pabell saffari. Mae gan babell Seren ei thwb poeth ei hun. Mae gennym hefyd ysgubor wedi'i haddasu o'r enw 'Y Beudy Bach' gyda'i thwb poeth ei hun. Dewch i fwynhau ein hawyr y nos anhygoel, canu’r adar, y diwylliant, y dreftadaeth, y bwyd, a'r arfordir syfrdanol.

Archwiliwch yr ardal
O draethau prydferth i fynyddoedd trawiadol, o gestyll hanesyddol i afonydd hollol glir, o fwyd artisan i gwrw lleol, yn wir mae Ceredigion yn cynnig y cyfan.
Mae Pant yr Hwch, y fferm sy'n gartref i ni, rhyw 5 munud o dref prifysgol a hanesyddol Llanbedr Pont Steffan; 15 munud o dref harbwr Sioraidd prydferth Aberaeron; 15 munud o goedwig hynafol Brechfa a 30 munud o draethau ysblennydd baner las Llangrannog, Penbryn, Tresaith ac Aber-porth.
Yn swatio rhwng tri Pharc Cenedlaethol Cymru, Parc Awyr Dywyll a thaith fer yn y car o Lwybr Arfordir Ceredigion, rydym mewn lleoliad perffaith i archwilio gorllewin Cymru, sy’n ddigon o ryfeddod.

Darganfyddwch yr ardal
Gwyliwch y boda a’r barcutiaid coch yn esgyn o gysur dec eich pabell saffari, bwydwch y defaid mynydd Torddu, coswch gefnau’r moch, casglwch yr wyau, ewch i chwilota am fwyd yn y gwrychoedd, trochwch eich hun yn y pwll.
Darganfyddwch Awyr Eang a chlystyrau o sêr uwchben, ymlaciwch dan hen goed derw a chwaraewch ger y nant.
Mae llwyth o bethau i'w darganfod ar y fferm ac yn yr ardal. Dewch i aros gyda ni ar gyfer eich antur nesaf.