Find out a bit more about us and why we love it here
Croeso i orllewin Cymru
Mae Pant Yr Hwch, ein tyddyn bach hyfryd, wedi'i leoli dair milltir o dref farchnad a phrifysgol Llanbedr Pont Steffan yng nghefn gwlad tawel, bryniog gorllewin Cymru.
Ni yw Dan ac Ellie, dau oedd yn byw yn y ddinas ar un adeg ond sydd bellach wedi torri'n rhydd i fagu ein plant (a'r holl anifeiliaid) yng nghefn gwlad paradwysaidd Cymru.
Fe wnaethon ni syrthio mewn cariad â Cheredigion a gorllewin Cymru pan ddaethon ni yma ar ein mis mêl amser maith yn ôl, ac fe dreulion ni bron i ddegawd yn chwilio am y lle iawn i sefydlu safle glampio.
Fe agoron ni yn 2017, ac er bod gennym bellach (ychydig) mwy o grychau ar ein hwynebau ac ambell flewyn gwyn yn ychwanegol yn ein gwallt o gymharu â phan ddechreuon ni, rydyn ni'n dal i garu popeth am y fferm, y golygfeydd, yr anifeiliaid, a'r gornel ddigyffwrdd hon o orllewin Cymru ... a gobeithio y gwnewch chi hefyd!
Ein Fferm
Mae gan y tyddyn bach 11 erw braidd bach o ddefaid drygionus iawn, tri mochyn gwyllt, haid o ieir, a hen berllan Gymreig.
Yn yr awyr fry uwchben y fferm fe welwch chi farcutiaid coch, bwncathod ac ambell gudyll glas, a hefyd haid o adar gardd a choetir fel cnocellod y coed, titwod penddu, dringwyr bach, delorion y cnau, a nicos i enwi ond rhai.
Mae’r llyn ar y safle yn gartref i amffibiaid di-ri ac mae'n lle perffaith i wneud ychydig o chwilota (gallwch fenthyg offer o'r siop onestrwydd) neu i wylio’r machlud.
Credwn ei fod yn lle hyfryd i eistedd a gwylio’r byd yn mynd heibio, ac mae plant yn mwynhau crwydro a rhedeg yn wyllt o gwmpas y fferm.
Mae croeso cynnes i bawb gymryd rhan yn y gwaith o redeg y fferm o ddydd i ddydd. Dewch i fwydo’r anifeiliaid a chasglu wyau, ffrwythau a llysiau gyda ni.
Ein Cyflenwyr
Rydyn ni’n cael gafael ar gymaint o bethau ag y gallwn yn lleol. Wrth wneud hynny, rydyn ni wedi dod o hyd i ambell grefftwr anhygoel. Cafodd ein stofiau Chilli Penguin sy’n llosgi pren eu gwneud ar Benrhyn Llŷn gan Karen a Steve, ac fe gafodd ein byrddau eu gwneud â llaw gan saer coed o’r enw Huw, sy’n byw rai milltiroedd i ffwrdd yng Ngheredigion.
Peirs yw’r saer coed wnaeth adeiladu ein cypyrddau cegin derw, a daeth y topiau llechen Cymreig naturiol o Harri a Mike Wilson tua phum milltir i ffwrdd. Yn olaf, daw’r carthenni clyd sy’n eich cadw’n gynnes yn y nos o Baavet, cwmni bach Cymreig sy’n arbenigo mewn creu carthenni gwlân. Cafodd ein pebyll eu gwneud gan Bond yn Stroud (doedden ni ddim yn gallu dod o hyd i unrhyw un yng Nghymru sy’n creu rhai, ac mae Michelle a Mike yn wych) ac fe gawson nhw eu codi gan grefftwyr lleol.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am unrhyw un o’n cyflenwyr, mae croeso i chi ofyn.
Y siop onestrwydd
Mae gennym siop fferm fechan ar y safle sy’n cynnwys eitemau hanfodol sylfaenol fel sos coch a phasta a’r malws melys hollbwysig.
Gallwch hefyd fenthyg llyfrau a phecynnau chwilota pryfed a chreaduriaid y llyn yma.



