Ein Pebyll Saffari
Tanllwyth o dân, gwelyau esmwyth, soffas cyfforddus, dŵr tap, toiledau sy’n fflysio a cheginau llawn offer coginio.
Mae’n union fel gwersylla, ond yn llawer gwell.
Gwnewch ddarganfod ein pum pabell saffari moethus, sef Seren, Afon, Aderyn, Enfys a Dyffryn yn swatio yn un o lechweddi ein tyddyn braf 11 erw yng ngorllewin Cymru.
Mae pob pabell yn cysgu hyd at 6, ac felly’n berffaith ar gyfer gwyliau ar ffurf glampio gyda theuluoedd a ffrindiau fel ei gilydd, ond hefyd maent yn ddigon clyd i ddau.
Enfys a Dyffryn yw ein pebyll mwyaf hygyrch gydag ystafelloedd gwlyb a sawl nodwedd arall yn perthyn iddynt.
Ceir crynodeb byr isod. Ceir mwy o fanylion yn ein hadran hygyrchedd.
Rydym yn croesawu grwpiau ac yn hapus i ddathliadau gael eu cynnal ar y safle.
Mae llain Seren yn cynnig twba poeth a gynhesir gan dân coed ac mae croeso i chi ei logi.
Yn Afon, Aderyn ac Enfys croesawn gŵn sy’n ymddwyn yn dda. Seren a Dyffryn yw ein pebyll di-gŵn.
Mae croeso i chi gynnau tanau gwersyll ar y safle ac os byddwch wedi anghofio eich coed tân a malws melys mae cyflenwad da bob amser ar gael yn ein siop gonestrwydd ar y safle.
Gwybodaeth am ein Pebyll Saffari
Mae gan bob un o’n pebyll saffari lolfa fawr gyda ffwrn goed sy’n creu awyrgylch clyd, soffa ledr, bwrdd mawr, meinciau a chadeiriau sydd wedi’u gwneud â llaw, yn ogystal â bwrdd coffi a bocs yn llawn gemau i’w chwarae.
Mae cegin wedi'i saernïo â llaw ym mhob un o'r pebyll ac maent yn llawn offer coginio. Maent yn cynnwys sinc gyda dŵr tap, llosgydd nwy gydag un cylch a stôf goed Chillli Penguin hyfryd a chanddi gylch poeth. Mae sosbenni, padelli, llestri, gwydrau a chyllyll a ffyrc i gyd yn barod ar eich cyfer yn y ceginau.
Mae Enfys a Dyffryn 1m yn lletach na'r pebyll eraill, a chanddynt sinc â gwagle oddi tano ar gyfer storio deunyddiau a hefyd wynebau gweithio y gellir eu tynnu allan.
Mae Seren, Afon ac Aderyn yn cynnig 2 ystafell wely, un ddwbl (gyda gwely maint ‘Brenin’) ac un ystafell twin, yn ogystal â gwely caban (dwbl) wedi'i saernïo â llaw sydd wedi'i leoli ger y lolfa. Mae blancedi ychwanegol a photeli dŵr poeth ym mhob ystafell wely.
Mae ganddynt hefyd doiledau preifat sy’n fflysio a basnau golchi dwylo (mae’r cawodydd wedi'u lleoli ar draws y cae).
Mae Enfys a Dyffryn yn cynnig 2 ystafell wely, un gyda gwely sy’n fwy na maint ‘Brenin’ (y gellir ei rannu'n ddau wely sengl) ac ystafell twin gyda gwelyau bync, yn ogystal â gwely caban dwbl. Mae ystafelloedd gwlyb hygyrch wedi’u cysylltu â phebyll Enfys a Dyffryn. Ceir manylebau manwl ar gyfer y pebyll yn ein hadran hygyrchedd.
Y tu allan i bob un o’r pebyll ceir ardal o ddecin gyda seddi er mwyn gwneud y gorau o'r golygfeydd anhygoel a phwll tân ar gyfer coginio a bwyta yn yr awyr agored.
Un o'r cwestiynau mwyaf cyffredin y gofynnir i ni am ein pebyll saffari yw 'Pa mor debyg yw’r profiad i wersylla?’