Mae ein beudy sy’n dyddio o'r 18fed ganrif wedi'i adnewyddu mewn modd dymunol. Mae’n llawn cymeriad a nodweddion gwreiddiol ac yn cynnig golygfeydd godidog dros y pwll tuag at y caeau a'r dyffryn islaw.
Wedi'i leoli ar ein tyddyn 11 erw sydd â choedwigoedd, nant yn byrlymu drwy’r tir a defaid Cymreig arno, mae'n llecyn delfrydol i ymlacio.
Mae'r ysgubor yn berffaith ar gyfer gwyliau bach rhamantus. Gallwch syllu ar y sêr a gwylio'r haul yn machlud o'r twba poeth, swatio o flaen tân coed neu ddarllen yn y mesanîn clyd i fyny’r grisiau.
Beth a ddarperir yn yr Ysgubor?
Mae’r ‘Beudy Bach’ yn ddigon mawr i ddau allu cysgu’n gyfforddus ynddo. Yn y mesanîn clyd i fyny’r grisiau ceir soffa-wely, felly gall trydydd person gysgu yno, os oes angen.
Rydym yn hapus i ddarparu cotiau teithio a chadeiriau uchel os oes plant bach yn rhan o’ch teulu, ond mae angen i chi sylweddoli fod yr ysgol i ddringo i’r mesanîn clyd yn serth iawn.
Ceir ystafell wely ddwbl gysurus, ardal fyw cynllun agored gyda chegin, lolfa a lle bwyta yn ogystal ag ystafell gawod fawr.
Gallwch wneud y gorau o'r ardal y tu allan drwy orwedd yn y twba poeth a gynhesir gan dân coed neu fwynhau bwyta yn yr awyr agored gan ddefnyddio’r offer barbeciw a’r pwll tân sy’n cael eu darparu.
Mae dillad gwely, tywelion, coed tân a gwasanaeth wi-fi i gyd yn cael eu darparu a’u cynnwys yn y pris.
Nid ydym yn caniatáu cŵn yn yr ysgubor, ond os hoffech chi ddod â nhw ar wyliau gyda chi, rydym yn croesawu cŵn yn ein pebyll saffari.